Beth Yw Camdriniaeth yn y Cartref?
Mae Cymorth i Fenywod Cymru’n diffinio Cam-drin yn y Cartref fel bygwth neu wir cam-drin rhywun yn gorfforol, yn emosiynol, yn seicolegol, yn rhywiol neu’n ariannol gan bartner, aelod o’r teulu neu berson mewn perthynas agos â nhw, neu a oedd mewn perthynas agos â nhw.
Yn y bôn mae cam-drin yn y cartref yn cynnwys un person yn camddefnyddio pŵer ac yn defnyddio rheolaeth dros berson arall lle mae, neu y cafwyd perthynas agos.
Mae cam-drin yn y cartref yn digwydd beth bynnag fo’r rhyw, hil, dosbarth, oed, crefydd, rhywioldeb, gallu meddyliol, gallu corfforol, incwm, ffordd o fyw neu ardal breswyl ddaearyddol.
Dengys ystadegau bod 97% o ddigwyddiadau cam-drin yn y cartref yr adroddir amdanynt yn cael eu cyflawni gan ddynion yn erbyn menywod. Fodd bynnag, mae Cymorth i Fenywod Cymru yn cydnabod y gall cam-drin yn y cartref ddigwydd o fewn perthynas o’r un rhyw ac mewn ychydig iawn o achosion, menywod sy’n cyflawni’r gamdriniaeth.
Ceir llawer o ffurfiau gwahanol o gam-drin yn y cartref ond yn bennaf ceir 4 categori cyffredinol. Dyma nhw:

