Y Ffeithiau
Bydd 1 o bob 4 menyw yng Nghymru a Lloegr yn dioddef cam-drin yn y cartref gan ei phartner neu gynbartner rhyw bryd yn ystod eu bywydau ac yn y DU, caiff 2 fenyw'r wythnos eu llofruddio gan bartner neu gynbartner.
Mae digwyddiadau o gam-drin yn y cartref yn cyfrannu at bron chwarter y troseddau treisgar ac fe ymosodir ar fenyw 35 gwaith ar gyfartaledd cyn iddi gysylltu â’r heddlu. Ond, nid yw’r term ‘cam-drin yn y cartref’ yn cynnwys trais corfforol yn unig - mae’n disgrifio unrhyw ymddygiad ymosodol a ddefnyddir gan un person i reoli a/neu ddominyddu person arall lle ceir neu y cafwyd perthynas agos â nhw. Mae hefyd yn cynnwys un aelod o’r teulu’n ceisio rheoli a/neu ddominyddu aelod arall.
Mewn 90% o ddigwyddiadau cam-drin yn y cartref, mae plant yn yr un ystafell neu yn yr ystafell drws nesaf. Hyd yn oed pan nad yw’n ymddangos bod plant yn cael eu cam-drin yn uniongyrchol eu hunain, dengys ymchwil eu bod yn debygol o fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.
Mae traean o blant yn ceisio ymyrryd yn ystod ymosodiadau ac weithiau, bydd plant yn teimlo’n euog os nad ydynt yn helpu eu rhiant.
Amcangyfrifir bod rhwng traean a dau draean o blant sy’n byw mewn cartrefi lle caiff y fam ei cham-drin, mewn perygl o gael eu cam-drin yn uniongyrchol hefyd.
Am ragor o wybodaeth ar effeithiau cam-drin yn y cartref ar blant a phobl ifanc, cliciwch yma

