Cam-drin Seicolegol / Emosiynol
Mae cam-drin Emosiynol a Seicolegol yn cynnwys mathau gwahanol o ymddygiad rheoli nad yw’n gorfforol sy’n achosi niwed emosiynol ac yn bychanu unigolyn.
Mae cam-drin Emosiynol a Seicolegol yn cynnwys:
· Dweud wrth rywun eu bod yn ddi-werth,
· Dweud wrthyn nhw does neb arall sydd eu heisiau,
· Gorfodi rhywun i wneud pethau ar amser penodol neu mewn ffordd benodol,
· Tanseilio gweithredoedd, barn a chredoau unigolyn,
· Dweud wrth rywun ei fod yn wan ac na fyddai’n gallu ymdopi ar ei ben ei hun,
· Gwneud i rywun feddwl eu bod yn wallgof,
· Dweud wrth rywun mai nhw sydd ar fai am y trais a’r cam-drin domestig,
· Peidio â gadael i rywun gael ymwelwyr,
· Rheoli pwy sydd yn ffrindiau iddynt,
· Peidio â gadael i unigolyn fynd allan,
· Peidio â gadael i unigolyn weld teulu na ffrindiau,
· Peidio â gadael i unigolyn fod ar ei ben ei hun gydag eraill,
· Peidio â gadael i unigolyn ddefnyddio’r ffôn, anfon llythyrau neu e-bostio,
· Cloi rhywun mewn ystafell neu dŷ,
· Peidio â gadael i unigolyn fynd allan i weithio, peidio â gadael i unigolyn fynd i’r coleg neu ddosbarthiadau nos,
· Mynd gyda rhywun i bob man er mwyn rheoli’r hyn maen nhw’n ei wneud, pwy maen nhw’n ei weld a beth maen nhw’n ei ddweud,
· Dweud wrth rywun eu bod yn rhiant gwael,
· Cael plant i ddweud a gwneud pethau i greu gofid i rywun,
· Annog plant i gymryd rhan yn y cam-drin,
· Cam-drin plant neu anifeiliaid anwes rhywun,
· Difrodi eiddo,
· Cyhuddo rhywun o ddweud celwydd pan nad ydynt yn gwneud hynny,
· Dweud wrth rywun eu bod yn dew, yn hyll ac yn ddiwerth,
· Gwneud i rywun feddwl does neb arall yn eu hoffi,
· Bygwth niweidio rhywun, neu niweidio eu plant neu eu hanifeiliaid anwes,
· Bygwth anfon rhywun i’r ysbyty gan eu bod yn wallgof,
· Bygwth alltudio rhywun neu beidio â rhoi gofal os yw rhywun yn hen, yn sâl neu’n anabl,
· Dweud wrth rywun os ydynt yn gadael, bydd y camdriniwr yn dod o hyd iddyn nhw ac yn eu lladd,
· Bygwth cam-drin rhywun o flaen eu plant, eu teulu neu eu ffrindiau.
Yn aml, mae’n anodd adnabod cam-drin emosiynol. Fe all ddigwydd mewn ffordd gyfrwys iawn nad yw’n amlwg i ffrindiau neu deulu unigolyn. Gallai’r unigolyn sy’n cael ei gam-drin feddwl neu deimlo nad yw’r cam-drin yn digwydd hyd yn oed.
Gall cam-drin emosiynol effeithio ar fenywod a phlant sy’n ei ddioddef mewn llawer o ffyrdd. Fe all adael creithiau seicolegol dwfn ac achosi niwed difrifol i hunanhyder yr unigolyn sy’n dioddef y cam-drin.
Os ydych yn dioddef cam-drin emosiynol/seicolegol, neu gam-drin domestig o unrhyw fath, cysylltwch â Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru ar 0808 80 10 800.

