Ystadegau ac Ymchwil
Mae Cymorth i Ferched Cymru yn casglu ystadegau o holl wasanaethau cam-drin domestig grwpiau aelod CFC, gan gynnwys lloches, cymorth fel y bo’r angen, allgymorth ac ailgyfanheddu.
Er mwyn gallu ymgyrchu’n effeithiol a hysbysu asiantaethau’r llywodraeth a sefydliadau eraill sydd â diddordeb, mae Cymorth i Ferched Cymru yn ymrwymedig i ddarparu data grymus a chywir, o’n cronfeydd data llochesau a’n Llinell Gymorth genedlaethol, yn ogystal â chronfeydd data canolog eraill gan gynnwys Arolwg Troseddu Prydain.
Bob blwyddyn, mae CFC yn lansio’r adroddiad Ystadegau Blynyddol, yng nghwmni ac yn rhannol o dan nawdd 4 plaid y llywodraeth.
-
Mewn dros 90% o ddigwyddiadau cam-drin domestig, mae plentyn yn bresennol neu mewn ystafell gyfagos. (Hughes, 1992)
-
Mae 30% o gam-drin domestig yn cychwyn, neu’n gwaethygu, yn ystod beichiogrwydd. (Helton et al, 1987)
-
O’r holl droseddau treisgar yr adroddir amdanynt, mae bron i 25% yn ymwneud â cham-drin domestig. (Y Swyddfa Gartref, 2004)
-
Bydd un o bob pedair merch yn dioddef cam-drin domestig yn ystod ei bywyd. (Y Swyddfa Gartref, 1999)
-
Yn 2007/08, cafodd 1505 o ferched lety mewn llochesau ar draws Cymru a chafodd dros 3000 o ferched eu cefnogi drwy brosiectau yn y gymuned.
-
Ceir 13 miliwn digwyddiad gwahanol o drais corfforol neu fygwth trais corfforol yn erbyn merched gan eu partneriaid neu gynbartneriaid bob blwyddyn. (Walby & Allen, 2004)
-
Lladdir dwy ferch yr wythnos gan eu parther neu gynbartner yng Nghymru a Lloegr. (Adroddiad ‘Reducing Homicide’ y Swyddfa Gartref, 2003)
-
Cyflawnir 54% o’r achosion o drais rhywiol yn y DU gan bartner presennol merch neu ei chynbartner. (Walby & Allen, 2004)
-
Mae bron i 75% o’r plant sydd ar y gofrestr Amddiffyn Plant yn byw mewn cartrefi lle y ceir cam-drin domestig. (Yr Adran Iechyd, 2002)
Gellir lawrlwytho Crynodeb o Adroddiad Ystadegau Blynyddol 2007/08 yma
Page 1
Page 2
Page 3
Os hoffech gael copi LLAWN o Adroddiad Ystadegau Blynyddol 07/08, cysylltwch â Kirstie Pavey
Sut mae CFC yn defnyddio’r data a ddarperir gan y grwpiau sy’n aelodau?
Llywodraeth Cynulliad Cymru: Defnyddir ystadegau i ddangos i’r Cynulliad Cenedlaethol bod yr angen am wasanaethau cam-drin domestig yn dal i fodoli, ac er mwyn nodi bylchau yn y ddarpariaeth o wasanaethau yn ogystal â nodi tueddiadau a darparu tystiolaeth i gyrff deddfwriaethol a chyllidwyr.
Ymchwil: Rydym yn darparu ystadegau i sefydliadau ac unigolion allanol sy’n cynnal ymchwil ym maes cam-drin domestig.
Ymgynghoriadau: Mae aelodau arbenigol o’r tîm cenedlaethol ac asiantaethau allanol yn defnyddio’r ystadegau i ymateb i ymgynghoriadau amrywiol, a defnyddir yr ystadegau i ymateb i geisiadau gan y cyfryngau hefyd.
Ymgyrchu a Cheisiadau am Gyllid: Gellir defnyddio’r data ystadegol a gesglir gennym i ymgyrchu’n fwy effeithiol dros gael adnoddau eraill.
Mae merched mewn mwy o berygl o ddioddef trais difrifol neu gael eu llofruddio wrth iddynt adael partner treisgar neu ar ôl gadael partner treisgar. (Lees, 2000)
Yn 2007/08, cafodd 1338 o blant lety mewn llochesau ar draws Cymru a chafodd dros 2500 o blant eu cefnogi drwy brosiectau yn y gymuned.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Kirstie Pavey neu ffoniwch 029 20 390 874.

