Cuddio’ch ôl
Rhybudd: os ydych yn poeni am rywun yn gwybod eich bod wedi ymweld â’r wefan hon, darllenwch y wybodaeth ddiogelwch ganlynol.
Sut gall camdriniwr ddarganfod eich gweithgareddau ar y rhyngrwyd'
Treuliwch ychydig funudau’n darllen y rhybudd isod a dilyn y camau i gynyddu eich diogelwch wrth ymweld â’r wefan hon.
Fel rheol, bydd porwyr rhyngrwyd yn cadw rhyw faint o wybodaeth wrth i chi syrffio’r rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys delweddau o wefannau yr ymwelwyd â nhw, gwybodaeth a roddwyd i beiriannau chwilio a thrywydd (‘hanes’) sy’n dangos y gwefannau yr ydych chi wedi ymweld â nhw. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i leihau’r posibilrwydd o rywun yn darganfod eich bod wedi ymweld â’r wefan hon.
Os gwyddoch pa borydd yr ydych yn ei ddefnyddio, yna ewch i’r cyfarwyddiadau perthnasol isod. Os na wyddoch y math o borydd yr ydych yn ei ddefnyddio, cliciwch ar Help ar y bar offer ar frig sgrîn y porydd. Bydd dewislen gwympo’n ymddangos, bydd y cofnod diwethaf yn dweud Am 'Internet Explorer', Am 'Mozilla Firefox', neu rywbeth tebyg. Mae’r cofnod yn cyfeirio at y math o borydd yr ydych yn ei ddefnyddio - dylech nawr droi at y cyfarwyddiadau perthnasol isod.
Internet Explorer
Cliciwch ar y ddewislen Offer a dewiswch Opsiynau’r Rhyngrwyd. Ar y dudalen Gyffredinol, o dan Ffeiliau Dros Dro’r Rhyngrwyd, cliciwch ar Dileu Cwcis ac yna OK. Cliciwch ar Dileu Ffeiliau, rhowch dic yn y blwch wedi’i labelu Dileu holl gynnwys oddi ar lein a chliciwch OK. O dan Hanes, cliciwch ar Clirio Hanes ac yna OK. Nawr edrychwch ar frig y ffenestr a chliciwch ar y tab Cynnwys, dewiswch Cwblhau’n Awtomatig ac i orffen, Clirio Ffurflenni.
Firefox/Netscape
Cliciwch ar Offer ac yna Opsiynau, yna cliciwch ar Preifatrwydd. Cliciwch ar y botwm Clirio drws nesaf i Storfa a Gwybodaeth a Gadwyd.
Opera
Cliciwch ar Offer ac yna Dewisiadau. Cliciwch ar y tab Uwch ac yna’r adran Hanes ar yr ochr dde. Cliciwch y ddau fotwm Clirio a’r botwm Gwacáu Nawr.
Dileu eich hanes
Mae porwyr rhyngrwyd hefyd yn cadw cofnod o’r holl wefannau rydych yn ymweld â nhw. Gelwir hyn yn ‘hanes’. I ddileu hanes Internet Explorer a Netscape/Firefox gwasgwch y botwm Ctrl ar y bysellfwrdd gan barhau i’w wasgu, ac yna gwasgwch y botwm H (Crtl, Alt a H ar gyfer Opera). Chwiliwch am unrhyw gofnod o www.womensaid.org.uk, cliciwch fotwm dde’r llygoden a dewiswch Dileu.
E-bost
Os bydd camdriniwr yn anfon negeseuon e-bost sy’n fygythiol neu’n aflonydd, gellir eu hargraffu a’u cadw fel tystiolaeth o’r gamdriniaeth hon. Bydd unrhyw e-bost yr ydych chi wedi’i anfon yn flaenorol wedi’i storio yn y ffolder Sent Items.
Os ydych wedi dechrau e-bost ond heb ei orffen, efallai caiff ei storio yn eich ffolder Drafftiau. Os byddwch yn ateb e-bost, bydd y neges wreiddiol fwy na thebyg yng nghorff eich neges - argraffwch a dilëwch yr e-bost os nad ydych am i unrhyw un weld eich neges wreiddiol.
Pan fyddwch yn dileu eitem mewn unrhyw raglen e-bost (Outlook Express, Outlook, Thunderbird etc) nid yw’n dileu’r eitem mewn gwirionedd - mae’n symud yr eitem i’r ffolder Eitemau Wedi’u Dileu. Rhaid i chi ddileu’r eitemau yn Eitemau Wedi’u Dileu ar wahân. Cliciwch fotwm dde’r llygoden o fewn y ffolder Eitemau Wedi’u Dileu i ddileu eitemau unigol.
Bariau Offer
Mae bariau offer fel Google, AOL a Yahoo yn cadw cofnod o’r geiriau chwilio yr ydych wedi’u rhoi ym mlwch chwilio’r bar offer. Er mwyn dileu’r holl eiriau chwilio yr ydych wedi’u teipio, bydd angen i chi wirio’r cyfarwyddiadau unigol ar gyfer y math o far offer. Er enghraifft, ar gyfer bar offer Google y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio ar eicon Google, a dewis "Clirio Hanes Chwilio".
Diogelwch Cyffredinol
Os nad ydych yn defnyddio cyfrinair i gofrestru ar eich cyfrifiadur, bydd rhywun arall yn gallu edrych ar eich e-bost a’ch defnydd o’r rhyngrwyd. Y ffordd fwyaf diogel o ddod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd byddai mewn llyfrgell leol, tŷ ffrind neu yn y gwaith.
Efallai na fydd yr holl wybodaeth uchod yn cuddio’ch ôl yn llwyr. Mae gan lawer o borwyr nodweddion sy’n dangos y gwefannau yr ymwelwyd â nhw’n ddiweddar.

