Newyddion

FAWCETT LAUNCHES GROUNDBREAKING LEGAL CHALLENGE TO GOV’T BUDGET

The Fawcett Society has filed papers with the High Court seeking a Judicial Review of the government's recent budget They believe the Treasury did not assess the way different budget measures would affect different groups, as is required by the law.

Consultation on Re-Allocation of National Lottery Shares

Consultation on Re-Allocation of National Lottery Shares The Department for Culture, Media and Sport is consulting on proposals to re-allocate National Lottery Shares, and is seeking responses by 21 August 2010.

The Promoting Independence Awards 2010

The Promoting Independence Awards 2010 is a joint event staged by Cymorth Cymru and Welsh Local Authorities.

WWA comments on the Independent Police Complaints Commission report on the response by the police to Joanna Michael

Today (26th July), the Independent Police Complaints Commission have released their report into the police handling of Joanna Michael case.

Commit to Prevent! from Stop it Now! Wales

Putting child sexual abuse prevention on the political agenda July 26, 2010: Residents in Wales are being given the chance to get the prevention of child sexual abuse on the political agenda, thanks to a new campaign by Stop it Now! Wales.

When it started I would go downstairs and pretend I wanted a drink or a biscuit and sometimes that would make him stop

Boy Aged 6 years old

One time it was real bad I was in bed but I got out and ran round to my Nan's house and told her to call the police, and I didn’t even have any shoes on

Girl Aged 10 years old

Os ydych yn blentyn sy’n darllen hwn....

 Cam-drin yn y cartref yw’r enw a roddir ar ymddygiad rheolaethol sy’n codi ofn o fewn y teulu. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dadlau a cham-drin yn y cartref? Ym mhob teulu, ceir adegau pan fydd pobl yn teimlo’n ddig ac yn dadlau gyda’i gilydd. Mae’n iawn anghytuno gyda’ch gilydd a chael syniadau a safbwyntiau gwahanol.  Mewn dadl deg, dylai pob person deimlo’u bod wedi cael cyfle i leisio’u barn a bod eraill wedi gwrando arnynt.  Ni ddylai person arall beri i chi deimlo’n ofnus nac yn ddwl, yn enwedig yn eich cartref eich hun. Pan fydd perthynas yn gadarnhaol, gallwch ddatrys pethau ar ôl i’r ddau ohonoch dawelu, trwy drafod pethau a dod yn ffrindiau eto.


Oes rhywun yn eich cartref yn codi ofn arnoch neu’n eich digio?teen sulk

 

Cam-drin yn y cartref yw pan fydd rhywun yn eich teulu, neu rywun sy’n agos at eich teulu, fel cariad eich Mam, am reoli pawb arall ac yn dweud ac yn gwneud pethau sy’n peri niwed neu’n codi ofn ar y bobl sy’n agos atynt. Gall y cam-drin ddigwydd am unrhyw reswm ar unrhyw adeg – nid yn eich cartref yn unig. Dyma rai o’r pethau allai ddigwydd

 

Cam-drin emosiynol

  • Galw enwau arnoch sy’n eich digio neu’n peri i chi deimlo’n hyll neu’n ddwl

  • Bob amser yn rhoi’r bai arnoch chi am bethau

  • Peri i chi deimlo’n unig drwy beidio â chroesawu ymwelwyr
     
  • Eich atal rhag ymuno â gweithgareddau gyda’ch ffrindiau

  • Eich anwybyddu neu beidio â siarad â chi o gwbl


  • Taflu pethau, cau drysau’n glep, dyrnu waliau, rhwystro allanfeydd  
      
                                                                    little sad boy

Cam-drin Corfforol

  • Eich gorfodi i wylio rhywun arall yn cael niwed, neu’ch gorfodi i’w niweidio hefyd

  • Eich niweidio chi e.e. drwy daro, slapio, cicio neu binsio


  • Bygwth neu niweidio anifail anwes y teulu


Cam-drin Ariannol

  • Rheoli faint o arian sydd gennych neu ar beth y gallech ei wario mewn ffordd annheg

 


 Cam-drin Rhywiol 

  • Cyffwrdd â chi mewn mannau nad ydych yn eu hoffi neu’n achosi i chi deimlo’n anghysurus


  • Eich gorfodi i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol


  • Eich gorfodi i wylio delweddau rhywiol

·Mae llawer o ffyrdd y gall person gam-drin, ond yr hyn sy’n gyffredin yw eu bod yn achosi i berson arall deimlo’n wael. 

              

Sut y gwn i os yw’n digwydd yn fy nheulu?

Efallai bod y pethau hyn yn digwydd i oedolyn yr ydych yn ei garu neu efallai’n digwydd i chi. Os bydd cam-drin yn digwydd yn eich cartref, rydych yn debygol o wybod amdano hyd yn oed os yw’n digwydd ar ôl i chi fynd i’ch gwely. Mae’n frawychus dros ben i orwedd yn eich gwely’n gwrando ar sŵn dadlau, gweiddi neu grio mewn ystafell arall. Efallai byddwch yn teimlo’n unig iawn ac efallai’n teimlo cywilydd am yr hyn sy’n digwydd yn eich teulu. Efallai byddwch yn teimlo y dylech wneud mwy i helpu.

Mae teimlo fel hyn yn normal ond;

NID ARNOCH CHI MAE’R BAI

NID AR EICH MAM MAE’R BAI

DYDYCH CHI DDIM YN GYFRIFOL AM AMDDIFFYN EICH MAM

Mae angen i chi gadw eich hunan yn ddiogel; mae oedolion eraill ar gael sy’n gallu helpu i gadw eich mam yn ddiogel os ydyn nhw’n gwybod beth sy’n digwydd.




Dim chi yw’r unig berson sydd wedi profi hyn. Dyma rai sylwadau gan bobl ifanc eraill sydd wedi byw dan amgylchiadau treisgar;

teen sulk"Pan fyddai’n dechrau, byddwn yn mynd lawr llawr a dweud bod angen diod neu fisged arnaf ac weithiau byddai hyn ei stopio." (Bachgen 6 oed)

 

"Un tro, roedd yn wael iawn ac roeddwn i yn y gwely ond codais a rhedeg i dŷ fy Mam-gu a dweud wrthi am ffonio’r heddlu. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwisgo esgidiau." (Merch 10 oed)

"Roeddem ni’n arfer cuddio o dan y gwely gartref. Byddai Dad yn rhoi’r bai arnom ni, felly byddem ni’n rhoi’r arnom ni pan fyddai’n taro Mam. Dydyn ni ddim yn byw gyda Dad bellach a does dim angen i ni fynd o dan ein gwelyau nawr." (Bachgen 12 oed) 

 Os hoffech ddarllen mwy am straeon pobl ifanc sydd wedi goroesi cam-drin yn y cartref ewch i          boy sulking
 www.notyourfault.org

 

Dyma rai dolenni i wefannau eraill a fydd efallai o ddiddordeb i chi. Maen nhw wedi’u llunio ar gyfer plant fel chi. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol arnynt i’ch helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn eich teulu a syniadau ar sut i gadw’n ddiogel.

www.thehideout.org.uk

www.burstingthebubble.com

www.childline.org.uk

www.donthideit.com