Beth yr ydym yn ei gynnig
RHAGLEN HYFFORDDI
Mae Cymorth i Fenywod Cymru’n ymrwymedig i gyflwyno hyfforddiant o safon uchel i’r grwpiau sy’n aelodau yn barhaus. Mae dosbarthu Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi Blynyddol Cymorth i Fenywod Cymru i’r holl grwpiau ar ddiwedd y flwyddyn yn darparu’r cyfle delfrydol i aelodau gyfrannu at lunio’r rhaglen hyfforddi ar gyfer y deuddeng mis dilynol. Mae Gweithwyr Cenedlaethol hefyd yn darparu mewnbwn gwerthfawr i’r broses hon gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd o Grwpiau Diddordeb Arbennig a fforymau allanol.
Cynhelir y Rhaglen Hyfforddi ddwywaith y flwyddyn – yn y Gwanwyn ac yn yr Hydref – ac fe’i dosbarthir i grwpiau 6-8 wythnos ymlaen llaw er mwyn caniatáu digon o amser i drefnu. Argymhellir yn gryf eich bod yn neilltuo lle cyn y dyddiad neilltuo terfynol gan fod yn rhaid penderfynu ar bosibilrwydd cynnal pob cwrs erbyn hynny a gallai niferoedd annigonol arwain at ganslo neu ohirio rhywfaint o’r hyfforddiant.
Gellir gweld y Rhaglen Hyfforddi bresennol drwy’r ddolen hon…….
Efallai bod rhai llefydd ar ôl a gellir neilltuo lle drwy Liz Price, y Cynorthwy-ydd Gweinyddol Hyfforddi.
SEFYDLIADAU ALLANOL
Erbyn hyn, gall sefydliadau allanol neilltuo llefydd ar gyfer cynrychiolwyr benywaidd ar ein Rhaglen Hyfforddi ond bod digon o le. Ni cheir cymhorthdal ar gyfer eu ffioedd.
HYFFORDDIANT MEWNOL
Bellach, mae Staff Cenedlaethol ar gael i ddarparu hyfforddiant mewnol ar gyfer grwpiau Cymorth i Fenywod yn eu gweithleoedd am bris o £200 y dydd ac unrhyw gostau teithio a threuliau. Byddai hyn o fantais os oes angen yr un hyfforddiant ar lawer o bobl ac mae’n anodd i bob un ohonynt adael y grŵp ar yr un pryd neu os oes angen teilwra’r hyfforddiant i ofynion penodol y grŵp hwnnw.
ACHREDIAD
Sefydlwyd Gweithgor Pecyn Hyfforddi i weithio ar ddiweddaru’r Pecyn Hyfforddi Ymwybyddiaeth Cam-drin yn y Cartref presennol sydd gan bob grŵp ar hyn o bryd. Mae’r grŵp yn cwrdd bob deufis a gobeithir y bydd y pecyn yn barod i’w ystyried ar gyfer achrediad erbyn yr Hydref 2007. Mae’r broses achrediad yn cael ei harchwilio ar hyn o bryd ac mae’r grŵp yn ystyried Rhwydwaith y Coleg Agored (OCN) a Chymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) ar hyn o bryd. Ni ellir gwneud penderfyniad terfynol nes bod cyllid ar ei gyfer wedi’i gadarnhau.

