Amdanom Ni
Cymorth i Fenywod Cymru yw’r sefydliad ambarél cenedlaethol sy’n cynrychioli grwpiau Cymorth i Fenywod lleol yng Nghymru. Mae ein 34 grŵp sy’n aelodau’n darparu cefnogaeth uniongyrchol i fenywod yn y gymuned ac mewn llochesau i filoedd o fenywod a phlant sydd wedi neu yn dioddef cam-drin yn y cartref.
Mae Cymorth i Fenywod Cymru’n darparu cefnogaeth hyfforddi arbenigol i grwpiau sy’n aelodau ar gartrefu, materion cyfreithiol a phlant ac yn lobïo ac yn ymgyrchu ar eu rhan ar lefel genedlaethol.
Mae Cymorth i Fenywod Cymru hefyd yn rheoli Llinell Gymorth Cam-drin yn y Cartref Cymru. Mae’r Llinell Gymorth yn agored i ddynion a menywod ac yn wasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth i bobl a phlant sy’n dioddef cam-drin ac unigolion a sefydliadau sydd am wybod mwy am wasanaethau cefnogi cam-drin yn y cartref yng Nghymru.

