Hanes
Yn ystod dechrau’r 1970au, daeth y mudiad Cymorth i Fenywod yng Nghymru â’r broblem o ‘guro gwragedd’ i sylw’r cyhoedd. O ganlyniad i’r galw uchel am lefydd diogel i fyw er mwyn dianc rhag cam-drin yn y cartref, sefydlwyd grwpiau Cymorth i Fenywod lleol yng Nghymru. Sefydlwyd Cymorth i Fenywod Cymru, fel y corff ambarél cenedlaethol, ym 1978 drwy gyllid gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol y Swyddfa Gymreig. Yna, daeth y grwpiau Cymorth i Fenywod lleol yn ‘aelodau’ o’r corff hyn. Prif nod Cymorth i Fenywod Cymru oedd cydlynu gwaith ac ymgyrchoedd grwpiau Cymorth i Fenywod lleol yng Nghymru.
Roedd y grwpiau Cymorth i Fenywod lleol yn darparu llety (lloches) diogel, dros dro, gwybodaeth a chefnogaeth i fenywod a phlant a oedd yn dioddef cam-drin yn y cartref. Roedd Cymorth i Fenywod yn dibynnu llawer iawn ar lafur ac ymrwymiad gwirfoddolwyr di-dâl a oedd yn cydnabod yr angen am wasanaethau i gefnogi menywod a phlant mewn perygl o, neu’n dioddef y cam-drin.
Fel ei grwpiau aelod, gweithiodd Cymorth i Fenywod Cymru ar y cyd. Golygai hyn bod yr holl benderfyniadau a fyddai’n effeithio ar waith y grŵp yn cael eu gwneud ar y cyd, felly’n galluogi menywod drwy rannu cyfrifoldeb a heb gamddefnyddio pŵer nac ailadrodd hierarchaeth bŵer anghyfartal y mae menywod yn ei chael o fewn cymdeithas. Mae llawer o’n haelodau’n dal i weithio ar y cyd.
Ychydig iawn o opsiynau oed ar gael i fenywod a oedd yn chwilio am ddewis arall ar wahân i fyw gyda dynion ymosodol a threisgar. Ar wahân i yng nghyd-destun ysgaru, roedd cael diogelwch o dan gyfraith sifil neu deulu bron yn amhosib; nid oedd cam-drin yn y cartref yn dderbyniol fel rheswm dros fod yn ddigartref; byddai’r heddlu ac awdurdodau’n gwrthod ‘ffraeon teuluol’ fel rhywbeth bach a gwastraff amser o ran eu hadnoddau; ac ymateb y rhan fwyaf o asiantaethau oedd 'ewch adref a maddeuwch'.
Cynhaliwyd llochesau cynnar yn gyfan gwbl gan lafur gwirfoddol menywod ymrwymedig. Roedd yr adeiladau’n aml mewn cyflwr gwael ac yn orlawn, ond roeddent yn darparu diogelwch a chefnogaeth ac yn galluogi llawer o’r menywod a’u defnyddiodd i ddianc a chychwyn bywyd newydd heb gamdriniaeth. Ychydig iawn o gyllid cyhoeddus a roddwyd i waith lloches – roedd fel arfer ar ffurf grantiau o dan y Rhaglen Cymorth Trefol neu drwy Gynlluniau Comisiwn Gwasanaethau’r Gweithlu tymor byr, a’n hwyrach drwy grantiau awdurdod lleol o dan Adran 13 Deddf Tai (Pobl Ddigartref) 1977.
Tudalen 1
Er y cafodd dirwasgiad economaidd y 1980au effaith fawr iawn ar Gymorth i Fenywod Cymru a’r grwpiau, ehangodd y gwasanaeth lloches yn gyflym yng Nghymru. Hwn oedd y cyfnod y trawsffurfiodd y gwaith o fod yn gwbl wirfoddol i fod yn gyflogedig er mwyn rheoli llochesau Cymorth i Fenywod yn well. Amrywiodd y lefelau a’r mynediad i gyllid ar gyfer llochesau’n sylweddol gyda therfyniad y Rhaglen Cymorth Trefol. Yn anfodlon, cymerodd awdurdodau lleol y cyfrifoldeb o gyllido’r llochesau yn wyneb blaenoriaethau ariannol eraill. Ar ben hyn, doedd dim cronfa wledig debyg ar gael, ac felly dioddefodd y gwasanaethau yng nghefn gwlad Cymru.
Erbyn diwedd y degawd, disgrifiodd Cymorth i Fenywod Cymru’r sefyllfa druenus fel "sgrialu’n anobeithiol am arian i gadw fynd".
Yn y gwanwyn ym 1989, nododd adolygiad gan y Swyddfa Gartref:
"Un o’r prif broblemau y mae’r mudiad lloches yn ei chael yw diffyg ac ansicrwydd cyllid".
Er gwaethaf cydnabod gwerth y gwasanaeth unigryw a ddarparwyd gan Gymorth i Fenywod, nid oedd modd ateb y galw cynyddol am loches a chefnogaeth yn y 1980au. Gorfodwyd llawer o fenywod i dderbyn eu sefyllfaoedd arswydus gam fod y tebygolrwydd o gael cartref gweddol arall, incwm digonol a diogelwch cyfreithiol yn brin.
Mewn papur cefndir i’r ddadl, nododd y Swyddfa Gymreig:
"Mae’r gwasanaeth gweddol newydd hwn sy’n datblygu’n gyflym, wedi bodoli trwy fod yn ymdrech wirfoddol gyda gwirfoddolwyr yn bennaf. Mae wedi bod yn hyblyg i newid a datblygu wrth i syniadau ddatblygu a chreu ethos "llawr gwlad" sydd efallai’n amhosib ei greu mewn ffyrdd eraill. Does dim amheuaeth fod datblygu llochesau a systemau cefnogi i fenywod sy’n cael eu cam-drin a’u teuluoedd wedi diwallu angen a deimlir yn fawr ond heb ei lwyr ddiwallu am lawer o flynyddoedd yn gynt"
[Seminar y Swyddfa Gymreig ar Gam-drin yn y Cartref yng Nghymru, Rhagfyr 1983]
Er mwyn ymdrin â’r broblem o ddarpariaeth loches annigonol ac anaddas, tuedd gynyddol y 1990au oedd datblygu llochesau drwy bartneriaethau gydag asiantaethau tai yn hytrach nag awdurdodau lleol.
Parhaodd Cymorth i Fenywod Cymru ymwneud â sefydliadau allweddol yng Nghymru i hyrwyddo diffiniad a dealltwriaeth gyffredin o achosion ac effeithiau cam-drin yn y cartref. Mae hyn wedi cynorthwyo wrth gydnabod y rhyngweithio a’r gyd-ddibyniaeth rhwng tai a materion eraill megis iechyd, addysg, anghenion cymdeithasol, budd-daliadau’r wladwriaeth a chynhwysiad cymdeithasol mewn perthynas â cham-drin a thrais yn y cartref.
Cydnabyddir Cymorth i Fenywod Cymru gan asiantaethau statudol allweddol fel sefydliad i blant am ei fod yn darparu gwasanaethau arbenigol i ymdrin ag anghenion penodol a phroblemau penodol y mae plant yn eu hwynebu o ganlyniad i rwyg teuluol oherwydd trais a cham-drin. Mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi tyfu o fod yn glwstwr o grwpiau Cymorth i Fenywod arloesol ‘llawr gwlad’ y 1970au i ddarparwr cenedlaethol blaenllaw gwasanaethau cam-drin yn y cartref a gyflwynir drwy ei 35 grŵp Cymorth i Fenywod lleol.
Mae Deddf Troseddau a Dioddefwyr Cam-drin yn y Cartref 2004, wedi rhoi mwy o bwyslais ar waith amlasiantaeth rhwng yr heddlu ac asiantaethau statudol eraill.
Roedd gofynion newidiol menywod yn golygu bod angen addasu’r amgylchedd gwaith ac yn 2004 daeth Cymorth i Fenywod Cymru’n hierarchaeth. Mae’n cadw at ei nodau a’i ethos gwreiddiol i ‘alluogi menywod i reoli eu bywydau eu hunain’.
Bydd Cymorth i Fenywod Cymru’n dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed yn 2008.

